Canolfan Bwyd Cymru - Cymorth technegol i'r diwydiant bwyd
Canolfan Bwyd Cymru - Set fawr o dri o luniau o adeilad Canolfan Bwyd Cymru

Amdanom ni

Sefydlwyd Canolfan Bwyd Cymru yn 1996 fel canolfan dechnoleg fwyd bwrpasol gan Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o'i Strategaeth Datblygu Economaidd.

Mae'n adnodd sy'n darparu cyngor ac ymgynghori ac mae'n cynnig gwasanaethau technegol i fusnesau newydd, busnesau bychain a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes yn bodoli yn ogystal â chwarae rôl strategol wrth gynnig cymorth technoleg i'r Diwydiant Bwyd yng Nghymru . Yn 2001, agorwyd Adeilad Ymchwil a Datblygu £1.7 miliwm gyda chyllid o Gynllun Her Cyfalaf, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae yna ardaloedd ar gyfer prosesu ag offer llawn o fewn yr adeilad ac mae hefyd yn cynnig cyfleusterau cynhyrchu ar gyfer hurio masnachol. Fe'i defnyddir hefyd fel "man cychwyn" ar gyfer syniadau newydd ac arloesol yn y Diwydiant Bwyd-Amaeth yng Nghymru, gan weithio'n agos gyda Chyfarwyddiaeth Fwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Beth felly yr ydym yn ei gynnig?

Mae gan Canolfan Bwyd Cymru yr offer a'r cyfleusterau diweddaraf er mwyn galluogi'n cleientiaid i ddatblygu'r amrediad ehangaf o gynnyrch bwyd newydd. Mae'r adeilad Ymchwil a Datblygu newydd yn mesur 880 metr sgwâr ac mae pedair ardal brosesu ar wahân oddi mewn, yn ogystal â cheginau bach ar gyfer treialu. Mae hefyd yn cynnig cyfleusterau cynhyrchu ar gyfer hurio masnachol. Mae'r Cynllun Uned Modwlar ar gyfer Cynhyrchu Bwyd ar gael sy'n darparu cyfleuster ar gyfer cynhyrchu ac mae'n barod i'w ddefnyddio.

Mae' r rhain yn unedau annibynnol sydd wedi'u cynllunio yn benodol, wedi'u trefnu yn unol â safonau ar gyfer graddio bwyd ac ar gael i'w hurio fel y gellir eu rhoi ar safle busnes y cleient. Mae yma hefyd ystafell seminar ar gael lle cynhelir amrediad eang o gyrsiau hyfforddiant. Mae'r ystafell hon hefyd ar gael i'w hurio ar gyfer cyfarfodydd a seminarau. Gall y tîm profiadol o staff Technegol ddarparu cymorth a chyngor technegol ar amrediad eang o gynnyrch bwyd.

Pwy all ein defnyddio?

Efallai bod gennych syniad am gynnyrch newydd ond eich bod yn ansicr ynglyn â beth i'w wneud neu pwy fydd yn ei gynhyrchu neu sut mae ei wneud. Efallai nad oes gennych unrhyw offer neu rywle i'w gynhyrchu! Gallwn gydweithio gyda chi er mwyn troi'r syniadau yn realiti. Gallwch hurio'r adeilad Ymchwil a Datblygu er mwyn cynhyrchu'r cynnyrch ar gyfer treialon oes silff neu er mwyn profi'r farchnad.

Efallai eich bod eisoes yn cynhyrchu eich cynnyrch eich hun ac efallai eich bod angen cymorth i greu cynnyrch newydd neu i wella effeithlonrwydd cynhyrchu. Efallai eich bod yn ystyried symud i adeilad mwy o faint. Gall ein tîm o Dechnolegwyr eich cynorthwyo ym mhob agwedd.

Beth yw'r gost?

Mae pob prosiect yn wahanol ac mae'n rhaid prisio pob un ar wahân. Oherwydd bod Canolfan Bwyd Cymru wedi'i ariannu'n rhannol gan y WDA ac yn derbyn arian Amcan 1, rydym yn gallu cynnig lefel uchel o wasanaeth am brisiau gostyngol.

Cysylltwch â'n staff gyda'ch syniadau ac fe fyddwn yn gallu'ch helpu i lunio pecyn a fydd o gymorth i'ch busnes am bris a fydd yn gweddu i'ch poced:

Portffolio o gleientiaid:

Mae pob un o’r cwmnïau blaenllaw Cymreig sydd wedi’u rhestru isod wedi manteisio ar ein gwasanaethau arbenigol, yn amrywio o ddatblygu cynnyrch bwyd newydd cyffrous i hyfforddi staff.  Paham na wnewch chi ychwanegu eich enw chi at y rhestr?

  • Rachel’s Dairy Limited  
  • Trioni 
  • Ewan Brook
  • Sancler

Hawlfraint Canolfan Bwyd Cymru 2006 | Ymwadiad | Hwyluso Mynediad | CSS Dilys | XHTML Dilys