

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn cynnig cyfleusterau unigryw i gynhyrchwyr bwyd ddatblygu cynnyrch newydd. Mae'r rhai sydd am wella'u cynnyrch hefyd yn elwa o'r un cyfleusterau ac yn rhoi iddynt y cyfle i ddatblygu bwydydd newydd. Mae'r pedair ardal brosesu wedi cael eu dodrefnu i'r safonau uchaf a gallant gael eu defnyddio i gynhyrchu amrediad eang o fwydydd yn cynnwys cynnyrch llaeth, cig, melysion, llysiau a chynnyrch o'r popty.
Mae storfeydd ar gyfer oeri a rhewi'r cynnyrch ar gael. Mae'r adeilad hefyd wedi cael ei ardystio gan Gymdeithas y Pridd. Mae'r cyfleusterau hyn ar gael i'w hurio ac mae Technolegwyr bwyd wrth law i gynorthwyo. Byddant yn eich cynorthwyo i gynyddu eich ryseitiau, eich hyfforddi i ddefnyddio'r offer, gosod amodau'n ymwneud â chynhyrchu - i gyd yn hanfodol os ydych am gynhyrchu bwyd.
Cynlluniwyd y cyfleuster technegol fel ag i alluogi cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu cynnyrch ar raddfa ddiwydiannol fechan

Mae tair ardal brosesu o fewn yr Uned laeth sef pasteureiddio amrwd, gwneud caws a'r ardal ar gyfer y prif brosesu. Mae ardal ar gyfer oeri a rhewi'r cynnyrch ar wahân yn ogystal ag ystafell ymolchi sydd i ffwrdd o'r ardaloedd eraill. Oherwydd y galw uchel am ein huned laeth, mae Canolfan Bwyd Cymru wedi ehangu'r uned laeth er mwyn darparu'r cyfleusterau ar gyfer mwy o bobl bob dydd yn ogystal â rhoi mwy o gyfleon i'n cwsmeriaid hen a newydd.
Mae'r cyfleuster yn hollol annibynnol oddi wrth weddill yr Adeilad Ymchwil a Datblygu gyda'r math o offer yn caniatáu prosesu'r mwyafrif o gynhyrchion llaeth, gan gynnwys cynnyrch organig. Gellir cynhyrchu'r cynnyrch isod yn yr uned laeth:
Mae hyfforddiant llaeth ar gael ar hyn o bryd yng Nghanolfan Bwyd Cymru ar gyfer gwneud caws meddal a chaled, gyda'r disgwyl y bydd hyfforddiant ar iogwrt a hufen ia ar gael yn yr hydref os bydd galw.
Mae'r Uned Torri Cig yng Nghanolfan Bwyd Cymru wedi derbyn trwydded lawn oddi wrth y Gwasanaeth Hylendid Cig sy'n caniatáu gwerthu cynnyrch i siopau adwerthu yn ogystal ag i'r cwsmer. Mae gan yr Uned drwydded lawn oddi wrth Gymdeithas y Pridd, fel y rhannau eraill o Ganolfan Bwyd Cymru, felly'n annog proseswyr organig i ddefnyddio'r cyfleusterau.
Mae yna ddwy Ystafell Brosesu o fewn yr Uned Torri Cig:
Defnyddir yr ystafell gyntaf ar gyfer torri, caledu, pacio, cyflwyno a labelu'r darnau o gig a chigoedd wedi'u caledu a'u marinadu
Yr offer yn cynnwys:
Defnyddir yr ail ar gyfer Paratoi Cig a chynnyrch fel byrgyrs, selsig, kebabs, hamiau, pasteiod, ‘meat balls’ a chig wedi’i dorri’n dafelli. Yr offer yn cynnwys:
Darperir pob cyllell, menig a ffedogau gyda dolennau cadwynog, llifiau, bowlenni, offer, hambyrddau a throlïau fel nad oes yn rhaid i chi boeni am ddod â'r offer iawn. Mae yma hefyd gyfleusterau storio - wrth i chi hurio'r Uned Torri Cig, bydd y pris yn cynnwys hongian y carcas am i fyny at wythnos mewn rhewgell, y cynhwysion sych a'r pacio ynghyd â storio eich cynnyrch gorffenedig mewn storfeydd ar gyfer oeri a rhewi cynnyrch.
Mae Canolfan Bwyd Cymru hefyd yn cynnal cyrsiau torri cig yn eu gweithdai ymarferol yn yr Uned Dorri, hyn yn caniatáu i sgiliau torri cig gael eu datblygu drwy brofiad ymarferol.
Mae gennym ddwy ardal brosesu amlbwrpas yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Mae offer cynhyrchu masnachol i'w cael ym mhob ardal, wedi'u cynllunio fel ag i gynnig yr hyblygrwydd mwyaf ac i ganiatáu'r amrediad ehangaf o gynnyrch i gael ei gynhyrchu'n fasnachol. Mae'r ardaloedd prosesu hyblyg hyn yn ardderchog gan eu bod yn caniatáu i fusnesau bach ddechrau drwy gymryd rysetiau'r gegin, eu cynyddu i lefelau masnachol, eu prosesu mewn modd awtomataidd a dull cynhyrchu mwy effeithiol.
Croesawir cynnyrch Organig yng Nghanolfan Bwyd Cymru ac mae'r cyfleusterau prosesu wedi derbyn trwydded lawn oddi wrth Gymdeithas y Pridd. Dyma rai esiamplau o'r cynnyrch y gellir eu prosesu gan ddefnyddio'r cyfleusterau hyn: swp, bwydydd parod, sawsiau, diodydd, cacennau, nwyddau wedi'u pobi, cynhyrchion â chrwst, pasta ffres, cyffaith (jamiau a siytni), pitsas, pasteiod, melysfwyd ('mousse' a chacennau caws), bisgedi, tartenni, paratoadau o lysiau a ffrwythau, grawnfwydydd, llysiau wedi'u rhostio, nwyddau'n ymwneud â bara, mayonnaise , dresin a melysion.