Canolfan Bwyd Cymru - Cymorth technegol i'r diwydiant bwyd
Canolfan Bwyd Cymru - Set fawr o dri o luniau o adeilad Canolfan Bwyd Cymru

Newyddion Diweddaraf Marchnad Ffermwyr


Gwyl Y Tir I’r Môr 2011

Dymuna Canolfan Bwyd Cymru a Chymdeithas Pysgota Môr Aberystwyth a’r Cyffiniau, cyd-drefnwyr Gwyl y Tir i’r Môr, ddiolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y digwyddiad cyntaf yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 20 Awst. Rhoddir diolch arbennig i Gymunedau Yn Gyntaf (Penparcau a Gorllewin, Aberystwyth) am eu cymorth amhrisiadwy wrth drefnu’r Wyl.

Roedd yr wyl yn llwyddiant ysgubol, ac er gwaethaf ambell gawod o law, aeth pethau’n well na’r disgwyl. Roedd y Bandstand a’r Kings Hall Piazza dan ei sang wrth i 1,500 o ymwelwyr a phobl leol fwynhau’r holl bethau a oedd ar gael yn ystod y diwrnod diddorol a llawn hwyl.

Dywedodd George Barratt a Carl Worrall, Cymdeithas Pysgota Môr Aberystwyth a’r Cyffiniau “Rydym wrth ein bodd bod nifer fawr o bobl wedi dod i weld yr arddangosiadau a blasu’r bwyd môr ardderchog o Fae Ceredigion. Mae hyn yn dangos bod angen gwyl o’r fath ar y Promenâd yn Aberystwyth a bod awydd mawr amdani”.

Ymhlith y sefydliadau lleol a chenedlaethol a fu’n arddangos oedd Bad Achub RNLI Aberystwyth, Ambiwlans Sant Ioan, Gwylwyr y Glannau Aberystwyth Brigâd Dân Aberystwyth (Diogelwch Tân wrth ddefnyddio Sosban Sglodion) a Chadetiaid Awyr Aberystwyth. Ar ben hynny, cynhaliwyd y gweithgareddau canlynol:- Taflu Gwialen o’r Traeth gyda Carl Worrall a Tony Oates, Taflu Plu gydag Emyr Breeze a Sue ynghyd â Chlymu Plu gyda George Baron yn y Bandstand. Yn ogystal â hynny, ymgasglodd cannoedd o bobl ar y promenâd i wylio arddangosfa Achub Bywyd ar y traeth gydag Achubwyr Bywydau Aberystwyth. Cafwyd sylwebaeth lawn o’r hyn a oedd yn digwydd o flaen eu llygaid gan Jeremy Turner.

Uchafbwynt y diwrnod yn y Bandstand oedd y ddau arddangosiad coginio gyda’r dyn lleol o Benparcau ‘Dai Chef’. Llwyddodd Dai a’i dîm (ei fab ai ferch, Dan a Megan) i greu argraff ar y gynulleidfa wrth iddynt arddangos eu sgiliau coginio a’u hiwmor lleol! Bu iddynt ddangos sut oedd coginio eog ffres a gwnaethant gawl Bwyd Môr arbennig yr oedd modd i aelodau’r gynulleidfa ei flasu. Hefyd, rhoddodd Gill Reacord o Gill’s Plaice yn Aberdyfi arddangosiad ardderchog ynghylch sut oedd paratoi cimychiaid a chrancod. Roedd yr arddangosiadau hyn i’w gweld a’u clywed ar y sgrin fawr.

Cafodd y diwrnod hwb mawr pan alwodd cyflwynydd poblogaidd Radio Wales Ollie Hides draw i ymuno yn yr hwyl. Magwyd Ollie yn Aberystwyth ac mae ei deulu yn dal i weithio yn yr ardal. Mae’n bysgotwr brwd ac roedd yn adnabod nifer o’r cymeriadau lleol a oedd yn bresennol. Bu iddo fwynhau awyrgylch yr wyl ar y Promenâd. Un o sêr y diwrnod oedd y dyn lleol Carl Worrall a fu’n crwydro’r wyl a’i feicroffon radio gan gyfweld arbenigwyr ynglyn â’u hoffer a’u technegau pysgota …...roedd wedi ei eni i’r swydd!

Roedd y stondinau yn y King’s Hall Piazza yn boblogaidd iawn a manteisiodd cannoedd o bobl ar y cyfle i bori a phrynu cynnyrch. Fe wnaeth y plant a’r oedolion fwynhau gweld tanc dwr Dean Parry a oedd yn cynnwys Cimychiaid a Chrancod Heglog byw.

Ymhlith y digwyddiadau poblogaidd eraill yn y Bandstand oedd y Gweithdai Crefftau gyda’r Merry Makers ac roedd prosiect Culturenet Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu gweithgareddau a oedd yn ymwneud ag adrodd straeon yn ddigidol. Roedd Clybiau Pysgota Môr De a Gorllewin Cymru hefyd yn bresennol yn y Bandstand i ddangos enghreifftiau o rigiau pysgota môr, gwialenni a’r abwydod bioddiraddadwy cyntaf o’u bath yng Nghymru.

Hefyd, roedd yr Helfa Drysor a drefnwyd gan swyddogion Cynnal Y Cardi yn boblogaidd iawn wrth i 50 o bobl gymryd rhan. Yr enillwyr oedd Orin ac Edward, a Molly Davis. Cyflwynodd George Barratt y gwobrau sef pecyn pysgota i ddechreuwyr i’r enillwyr. Diolch yn fawr iawn i Siop Offer Pysgota Aberystwyth am roi’r wobr. Trefnodd Cadetiaid Môr Aberystwyth ‘Ras Hwyaid’ ar yr afon yn Nhrefechan er mwyn codi arian i’r sefydliad. Dymuna’r Cadetiaid Môr gyfleu eu gwerthfawrogiad i bawb a gefnogodd eu digwyddiad.

Rhoddir diolch arbennig i bawb a fu o gymorth i ariannu’r digwyddiad gan gynnwys , Cyngor Tref Aberystwyth, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cymunedau Yn Gyntaf, Penparcau a Gorllewin Aberystwyth, Bam Nuttall (Peirianwyr Sifil) a Chynnal y Cardi sef rhaglen LEADER Ewropeaidd Cyngor Sir Ceredigion.


Dyfarnu Marchnad Ffermwyr Aberystwyth Ymysg 10 Gorau'r Deyrnas Unedig

Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth wedi ei dyfarnu yn un o'r deg Marchnad Ffermwyr gorau ym Mhrydain. Mewn erthygl ym mhapur newydd y Times, dywedodd Henrietta Green, sy'n cael ei hystyried yn arbenigwraig ym maes bwydydd Prydeinig, rhanbarthol a lleol o safon, bod Marchnad Ffermwyr Aberystwyth, er nad yn farchnad fawr, yn cyfleu'r syniad ei bod yn bwysig iawn i'r gymuned a'i bod yn gyfrwng gwerthu i gynhyrchwyr da a gonest.

Mae Cydlynydd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth, Jan Fenner, wrth ei bodd gyda'r newyddion bod y farchnad wedi ei rhestru ymhlith y deg gorau yn y Deyrnas Unedig a'r unig farchnad Gymreig i'w chynnwys ymhlith y deg. Dywedodd Jan Fenner: "Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn mynd o nerth i nerth gydag i fyny at 27 o gynhyrchwyr yn gwerthu cynnyrch sydd naill ai wedi ei dyfu, ei fagu neu ei gynhyrchu ganddynt eu hunain. Fe gewch ffrwythau, llysiau a salad tymhorol yn cael eu harddangos ynghyd â phob math o gynnyrch arall i lenwi'r fasged siopa. Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn gymorth mawr i ffermwyr a busnesau bychain i werthu eu cynnyrch."

Cynhelir Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar Sadwrn cyntaf a thrydydd Sadwrn y mis a chefnogir y Farchnad gan Gyngor Sir Ceredigion gyda nawdd oddi wrth Gyngor Tref Aberystwyth. Cyfrifoldeb Canolfan Bwyd Cyrmru yw trefnu Marchnad Ffermwyr Aberystwyth.

 

| Ymwadiad | Hwyluso Mynediad | CSS Dilys | XHTML Dilys