

Ddydd Mawrth, 8 Tachwedd 2011 bydd Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn cael ei werthu am y tro cyntaf ar QVC, sef prif sianel siopa‟r DU. Bydd y blychau o wahanol ddarnau o gig oen Cymreig ffres yn cael eu gwerthu ar yr awyr a thrwy wefan y sianel. Caiff y cig oen ei gynhyrchu gan grŵp o ffermwyr sy‟n rhan o fenter wledig a gefnogir gan EUB Tywysog Cymru, ac sy‟n cydymffurfio â safonau llym o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid er mwyn cynhyrchu cig sydd o ansawdd eithriadol o uchel.
Yn cymryd rhan yn y sioe goginio awr o hyd, a fydd yn fyw ar yr awyr o 1pm ymlaen ar 8 Tachwedd, y bydd cogydd enwog Mynyddoedd Cambrian, sef Rhodri Edwards o‟r Ffarmers, Llanfihangel-y-Creuddyn ger Aberystwyth, a Gareth Rowlands (ffermwr ac un o sylfaenwyr Rachel‟s Dairy) sy‟n un o Gyfarwyddwyr Cwmni Mynyddoedd Cambrian.
Yn ystod y sioe fyw ar QVC, bydd Rhodri yn temtio‟r gwylwyr ag ystod o ryseitiau blasus ar gyfer amryw ddarnau bendigedig o gig oen – o Gawl Cymreig traddodiadol i tagine cig oen Morocaidd. Bydd seigiau eraill yn cynnwys coes wedi‟i sesno â pherlysiau i‟w rhostio, golwythion lwyn gyda llysiau rhost, a ffiled gwddf gyda saws o win coch a chwrens coch. Caiff y cig oen ei gynhyrchu‟n naturiol gan grŵp o 21 o deuluoedd traddodiadol sy‟n ffermio‟r mynyddoedd, ac mae‟n gynnyrch o ansawdd eithriadol sy‟n rhwydd i‟w baratoi.
Mae Rhodri hefyd yn un o grŵp o Lysgenhadon Twristiaeth Mynyddoedd Cambrian a benodwyd yn ddiweddar gan EUB Tywysog Cymru i helpu i hyrwyddo twristiaeth o safon yn y rhanbarth. Yn ddiweddar dewiswyd bwyty Rhodri a‟i wraig, Esther, fel y lle gorau i gael cinio dydd Sul ynddo yng Nghymru.
Drwy gydol y rhaglen bydd Gareth Rowlands yn esbonio beth yw Menter Mynyddoedd Cambrian a‟r modd y mae‟r ffermwyr wedi dod at ei gilydd i godi safonau a marchnata eu cynnyrch. Mae‟r Fenter, y mae Tywysog Cymru yn Llywydd iddi, yn helpu i gynnal cymunedau gwledig a ffermydd traddodiadol yr ucheldir. Mae logo brand „Mynyddoedd Cambrian Mountains‟ hefyd yn cynnwys llun dyfrlliw a baentiwyd gan y Tywysog o Gwm Berwyn ger Tregaron.
Mae gan QVC 8 miliwn o gwsmeriaid ar gyfartaledd, ac 20 miliwn o wylwyr y flwyddyn. Meddai Rheolwr Busnes Cwmni Mynyddoedd Cambrian, Deanna Leven: “Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos Cig Oen Mynyddoedd Cambrian, ac mae‟n cynnig cyfle i filoedd o wylwyr yn y DU brynu‟r cig pur, mwyaf blasus o galon Cymru. Mae hefyd yn ffordd wych o godi proffil yr ardal a thynnu sylw at y modd y mae‟r fenter wedi helpu i ychwanegu gwerth go iawn at gynnyrch ffermwyr lleol. Y gobaith yw y bydd hwn yn ddechrau perthynas barhaus â QVC i werthu cig oen a chynnyrch arall Mynyddoedd Cambrian yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am Fenter Mynyddoedd Cambrian, cysylltwch â:
Deanna Leven (Rheolwr Busnes Menter Mynyddoedd Cambrian)
Ffôn: 01970 639 410
Ebost Deanna@cambrianmountains.co.uk
Gwefan: www.cambrianmountains.co.uk
Dymuna Canolfan Bwyd Cymru a Chymdeithas Pysgota Môr Aberystwyth a’r Cyffiniau, cyd-drefnwyr Gwyl y Tir i’r Môr, ddiolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y digwyddiad cyntaf yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 20 Awst. Rhoddir diolch arbennig i Gymunedau Yn Gyntaf (Penparcau a Gorllewin, Aberystwyth) am eu cymorth amhrisiadwy wrth drefnu’r Wyl.
Roedd yr wyl yn llwyddiant ysgubol, ac er gwaethaf ambell gawod o law, aeth pethau’n well na’r disgwyl. Roedd y Bandstand a’r Kings Hall Piazza dan ei sang wrth i 1,500 o ymwelwyr a phobl leol fwynhau’r holl bethau a oedd ar gael yn ystod y diwrnod diddorol a llawn hwyl.
Dywedodd George Barratt a Carl Worrall, Cymdeithas Pysgota Môr Aberystwyth a’r Cyffiniau “Rydym wrth ein bodd bod nifer fawr o bobl wedi dod i weld yr arddangosiadau a blasu’r bwyd môr ardderchog o Fae Ceredigion. Mae hyn yn dangos bod angen gwyl o’r fath ar y Promenâd yn Aberystwyth a bod awydd mawr amdani”.
Ymhlith y sefydliadau lleol a chenedlaethol a fu’n arddangos oedd Bad Achub RNLI Aberystwyth, Ambiwlans Sant Ioan, Gwylwyr y Glannau Aberystwyth Brigâd Dân Aberystwyth (Diogelwch Tân wrth ddefnyddio Sosban Sglodion) a Chadetiaid Awyr Aberystwyth. Ar ben hynny, cynhaliwyd y gweithgareddau canlynol:- Taflu Gwialen o’r Traeth gyda Carl Worrall a Tony Oates, Taflu Plu gydag Emyr Breeze a Sue ynghyd â Chlymu Plu gyda George Baron yn y Bandstand. Yn ogystal â hynny, ymgasglodd cannoedd o bobl ar y promenâd i wylio arddangosfa Achub Bywyd ar y traeth gydag Achubwyr Bywydau Aberystwyth. Cafwyd sylwebaeth lawn o’r hyn a oedd yn digwydd o flaen eu llygaid gan Jeremy Turner.
Uchafbwynt y diwrnod yn y Bandstand oedd y ddau arddangosiad coginio gyda’r dyn lleol o Benparcau ‘Dai Chef’. Llwyddodd Dai a’i dîm (ei fab ai ferch, Dan a Megan) i greu argraff ar y gynulleidfa wrth iddynt arddangos eu sgiliau coginio a’u hiwmor lleol! Bu iddynt ddangos sut oedd coginio eog ffres a gwnaethant gawl Bwyd Môr arbennig yr oedd modd i aelodau’r gynulleidfa ei flasu. Hefyd, rhoddodd Gill Reacord o Gill’s Plaice yn Aberdyfi arddangosiad ardderchog ynghylch sut oedd paratoi cimychiaid a chrancod. Roedd yr arddangosiadau hyn i’w gweld a’u clywed ar y sgrin fawr.
Cafodd y diwrnod hwb mawr pan alwodd cyflwynydd poblogaidd Radio Wales Ollie Hides draw i ymuno yn yr hwyl. Magwyd Ollie yn Aberystwyth ac mae ei deulu yn dal i weithio yn yr ardal. Mae’n bysgotwr brwd ac roedd yn adnabod nifer o’r cymeriadau lleol a oedd yn bresennol. Bu iddo fwynhau awyrgylch yr wyl ar y Promenâd. Un o sêr y diwrnod oedd y dyn lleol Carl Worrall a fu’n crwydro’r wyl a’i feicroffon radio gan gyfweld arbenigwyr ynglyn â’u hoffer a’u technegau pysgota …...roedd wedi ei eni i’r swydd!
Roedd y stondinau yn y King’s Hall Piazza yn boblogaidd iawn a manteisiodd cannoedd o bobl ar y cyfle i bori a phrynu cynnyrch. Fe wnaeth y plant a’r oedolion fwynhau gweld tanc dwr Dean Parry a oedd yn cynnwys Cimychiaid a Chrancod Heglog byw.
Ymhlith y digwyddiadau poblogaidd eraill yn y Bandstand oedd y Gweithdai Crefftau gyda’r Merry Makers ac roedd prosiect Culturenet Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu gweithgareddau a oedd yn ymwneud ag adrodd straeon yn ddigidol. Roedd Clybiau Pysgota Môr De a Gorllewin Cymru hefyd yn bresennol yn y Bandstand i ddangos enghreifftiau o rigiau pysgota môr, gwialenni a’r abwydod bioddiraddadwy cyntaf o’u bath yng Nghymru.
Hefyd, roedd yr Helfa Drysor a drefnwyd gan swyddogion Cynnal Y Cardi yn boblogaidd iawn wrth i 50 o bobl gymryd rhan. Yr enillwyr oedd Orin ac Edward, a Molly Davis. Cyflwynodd George Barratt y gwobrau sef pecyn pysgota i ddechreuwyr i’r enillwyr. Diolch yn fawr iawn i Siop Offer Pysgota Aberystwyth am roi’r wobr. Trefnodd Cadetiaid Môr Aberystwyth ‘Ras Hwyaid’ ar yr afon yn Nhrefechan er mwyn codi arian i’r sefydliad. Dymuna’r Cadetiaid Môr gyfleu eu gwerthfawrogiad i bawb a gefnogodd eu digwyddiad.
Rhoddir diolch arbennig i bawb a fu o gymorth i ariannu’r digwyddiad gan gynnwys , Cyngor Tref Aberystwyth, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cymunedau Yn Gyntaf, Penparcau a Gorllewin Aberystwyth, Bam Nuttall (Peirianwyr Sifil) a Chynnal y Cardi sef rhaglen LEADER Ewropeaidd Cyngor Sir Ceredigion.
Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth wedi ei dyfarnu yn un o'r deg Marchnad Ffermwyr gorau ym Mhrydain. Mewn erthygl ym mhapur newydd y Times, dywedodd Henrietta Green, sy'n cael ei hystyried yn arbenigwraig ym maes bwydydd Prydeinig, rhanbarthol a lleol o safon, bod Marchnad Ffermwyr Aberystwyth, er nad yn farchnad fawr, yn cyfleu'r syniad ei bod yn bwysig iawn i'r gymuned a'i bod yn gyfrwng gwerthu i gynhyrchwyr da a gonest.
Mae Cydlynydd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth, Jan Fenner, wrth ei bodd gyda'r newyddion bod y farchnad wedi ei rhestru ymhlith y deg gorau yn y Deyrnas Unedig a'r unig farchnad Gymreig i'w chynnwys ymhlith y deg. Dywedodd Jan Fenner: "Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn mynd o nerth i nerth gydag i fyny at 27 o gynhyrchwyr yn gwerthu cynnyrch sydd naill ai wedi ei dyfu, ei fagu neu ei gynhyrchu ganddynt eu hunain. Fe gewch ffrwythau, llysiau a salad tymhorol yn cael eu harddangos ynghyd â phob math o gynnyrch arall i lenwi'r fasged siopa. Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn gymorth mawr i ffermwyr a busnesau bychain i werthu eu cynnyrch."
Cynhelir Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar Sadwrn cyntaf a thrydydd Sadwrn y mis a chefnogir y Farchnad gan Gyngor Sir Ceredigion gyda nawdd oddi wrth Gyngor Tref Aberystwyth. Cyfrifoldeb Canolfan Bwyd Cyrmru yw trefnu Marchnad Ffermwyr Aberystwyth.
Kay Lewis a Richard Jones yn derbyn tystysgrifau ar ran gweithwyr Dunbia, a lwyddodd i gwblhau Cwrs Sgiliau Torri Cig yng Nghanolfan Bwyd Cymru.
Y Cynghorydd Keith Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; Kay Lewis a Richard Jones o Dunbia, Llanybydder; a John Davies, Rheolwr Canolfan Bwyd Cymru.
Y Cynghorydd Haydn Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, yn cyflwyno tystysgrifau i Carol Coffin a Hopkin Evans am gwblhau cwrs Gwneud Caws yng Nghanolfan Bwyd Cymru.

Carol Coffin, y Cynghorydd Haydn Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion; Hopkin Evans a John Davies, Rheolwr Canolfan Bwyd Cymru.