Canolfan Bwyd Cymru - Cymorth technegol i'r diwydiant bwyd
Canolfan Bwyd Cymru - Set fawr o dri o luniau o adeilad Canolfan Bwyd Cymru

Gwasanaethau

Gall Canolfan Bwyd Cymru ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer eich cwmni. Os ydych am weld y gwasanaethau y gallwn eu darparu, gweler y rhestr gynhwysfawr isod.

Datblygu Cynnyrch:

Gallwn ddatblygu cynnyrch newydd ar eich cyfer neu wella’r cynnyrch sydd gennych yn barod. Gall hyn olygu cynnal paneli i flasu’r cynnyrch neu gynnal asesiadau o’ch cynnyrch o’i gymharu â chynnyrch y rhai sy’n cystadlu â chi. Mae sicrhau oes silff y cynnyrch yn hanfodol a gall hyn ffurfio rhan o’r rhaglen ar gyfer datblygu’ch cynnyrch. Byddwn hefyd yn eich cynghori ar anghenion labelu sy’n cynnwys datganiad yn ymwneud â’r cynhwysion a sut mae coginio’r cynnyrch.

Asesiad o’r Cynnyrch:

Mae asesu cynnyrch yn rhan allweddol yn y broses o ddatblygu cynnyrch. Mae cymorth technegol ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru i werthuso’r cynnyrch ac i brofi oes silff y cynnyrch

Cynllunio ffatrïoedd a chwilio am offer:

Gall Canolfan Bwyd Cymru eich cynorthwyo mewn nifer o feysydd gwahanol, o ddylunio a chynllunio ffatri newydd sbon gan gynnwys cyngor ar ddulliau o orffeniadau, llif y cynnyrch, chwilio am a phrosesu cynlluniau yn ymwneud â chyfarpar yn ogystal ag uwchraddio syml o’r adeilad a’r offer. Mae ein technolegwyr profiadol yma yn y Ganolfan wedi ennill profiad wrth weithio ym mhob sector bwyd o fewn y diwydiant.

Hurio Cyfleusterau Technegol

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn cynnig cyfleusterau unigryw i gynhyrchwyr bwyd ddatblygu cynnyrch newydd. Mae’r rhai sydd am wella’u cynnyrch hefyd yn elwa o’r un cyfleusterau ac yn rhoi iddynt y cyfle i ddatblygu bwydydd newydd. Mae’r pedair ardal brosesu wedi cael eu dodrefnu i’r safonau uchaf a gallant gael eu defnyddio i gynhyrchu amrediad eang o fwydydd yn cynnwys cynnyrch llaeth, cig, melysion, llysiau a chynnyrch o’r popty. Mae storfeydd ar gyfer oeri a rhewi’r cynnyrch ar gael. Mae’r adeilad hefyd wedi cael ei ardystio gan Gymdeithas y Pridd. Mae’r cyfleusterau hyn ar gael i’w hurio ac mae Technolegwyr bwyd wrth law i gynorthwyo. Byddant yn eich cynorthwyo i gynyddu eich ryseitiau, eich hyfforddi i ddefnyddio’r offer, gosod amodau’n ymwneud â chynhyrchu – i gyd yn hanfodol os ydych am gynhyrchu bwyd. Cynlluniwyd y cyfleuster technegol fel ag i alluogi cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu cynnyrch ar raddfa ddiwydiannol fechan.

Datblygu prosesau a chynhyrchu

Os ydych am gael cyngor ar:-

  • Weithredu prosesau newydd ar gyfer cynnyrch hen a newydd.
  • Gwella neu awtomeiddio prosesau sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd.
  • Cyflwyno technoleg newydd i mewn i’ch proses o gynhyrchu.

Cyngor ar reoli’r prosesau neu ar yr arferion gorau o gynhyrchu. Mae technolegwyr Canolfan Bwyd Cymru ar gael i rannu’r arbenigedd y maent wedi’i ennill o bob sector o’r diwydiant bwyd gyda chi.

Systemau rheoli o ansawdd da ac archwilio:

Gall y technolegwyr yng Nghanolfan Bwyd Cymru roi cyngor, cynllunio a gweithredu systemau rheoli o ansawdd ar gyfer:-

  • Ardystiad Organig
  • Achrediad y Consortiwm Adwerthu Prydeinig (BRC)
  • Cynlluniau HACCP
  • Systemau rheoli ansawdd

Cyfleusterau ar gyfer Cynadleddau:

Mae ein hystafell seminar, a adeiladwyd yn bwrpasol, ar gael ar gyfer cynadleddau. Mae’r ystafell yn addas ar gyfer 20 o bobl mewn sefyllfa gweithdy neu seminar a 40 o bobl ar gyfer cyflwyniadau ar ffurf theatr. Mae amrediad eang o gymhorthion ar gael ar gyfer cyflwyniadau sy’n gynwysedig yn y pris a gellir darparu ciniawau o fath bwffe.

Mae ystafell gyfarfod ar gael i grwpiau llai o ran maint, i fyny at 10 o bobl. Cysylltwch â ni yn y ganolfan os am wybodaeth am y fwydlen a’r prisiau.


Hawlfraint Canolfan Bwyd Cymru 2006 | Ymwadiad | Hwyluso Mynediad | CSS Dilys | XHTML Dilys