Canolfan Bwyd Cymru - Cymorth technegol i'r diwydiant bwyd
Canolfan Bwyd Cymru - Set fawr o dri o luniau o adeilad Canolfan Bwyd Cymru

Staff

Gweler lluniau o'n Staff isod ynghyd â disgrifiadau o'u cyfrifoldebau gyda Chanolfan Bwyd Cymru.

Rheolwr y Ganolfan: John Davies

 

Yn dilyn penodiad yn Nhachwedd 2001, John sy'n gyfrifol am arwain y tîm yn y ganolfan. Mae cefndir John gyda'r NFU wedi bod yn allweddol i gymeradwyo'r cysylltiadau o fewn y sector bwyd-amaeth sy'n ehangu

john@foodcentrewales.org.uk

Image of Food Centre Wales Manager

Uwch- dechnolegydd Bwyd: Angela Sawyer

 

Angela sy'n gyfrifol am arwain y tîm technolegol ac mae ganddi brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd am 18 mlynedd. Mae'n meddu ar wybodaeth arbennig am gynhyrchion, er enghraifft, melysion, cig a bwydydd parod yn ogystal â phrofiad o systemau ansawdd, datblygu cynnyrch a hyfforddi.

angela@foodcentrewales.org.uk
Image of Senior food technologist - Angela Sawyer

Technolegydd Bwyd: Mark Horsman

 

Mae Mark wedi gweithio yn y Ganolfan Fwyd ers mwy na 10 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ennill llawer o brofiad, gwneud cysylltiadau a datblygu ei wybodaeth o’r Diwydiant Bwyd, yn benodol yn y Sector Llaeth.

Yn rhinwedd ei swydd fel Technolegydd Llaeth, mae’n gyfrifol am Uned Laeth y Ganolfan Fwyd. Hefyd, mae’n gyfrifol am brosiectau Ynni Adnewyddadwy’r Ganolfan ac mae wedi arwain y ffordd o ran datblygu’r dechnoleg hon ar y safle.

Mae rôl Mark fel Technolegydd Llaeth yn cynnwys gweithio gyda chwmnïau llaeth, hen a newydd, yn y Deyrnas Unedig a’u cynorthwyo nhw wrth ddatblygu cynnyrch newydd, HACCP, gwneud ceisiadau, datrys problemau a datblygu prosesau.

Mae gan Mark ddiddordeb penodol mewn iogwrt, caws a hufen ia ac oherwydd hynny mae wedi canolbwyntio ei ymdrechion ar sefydlu cyfleuster cynhyrchu/treialu masnachol o’r radd flaenaf.

mark@foodcentrewales.org.uk

Image of food technologist - Mark Horsman

Technolegydd Bwyd: Kirsty Hughes

 

Mae gan Kirsty brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant bwyd dros y 13 mlynedd diwethaf, ers iddi raddio o Brifysgol Fetropolitan Manceinion lle cafodd BSc gydag anrhydedd mewn Technoleg Bwyd.

Yn ei rôl bresennol, Kirsty yw’r technolegydd sy’n gyfrifol am fwydydd sydd wedi’u paratoi megis bwydydd parod, sawsiau, nwyddau wedi’u pobi a chyffeithiau. Mae gan Kirsty ddiddordeb mawr mewn pecynnu a’r ddeddfwriaeth sy’n ofynnol ar gyfer bwydydd sydd wedi’u paratoi’n barod.

kirsty@foodcentrewales.org.uk

Image of Food Technologist - Kirsty hughes

Technegydd Cig: Pam Thompson

 

Ymunodd Pam â Chanolfan Bwyd Cymru ym mis Mawrth 2005. Yn 2000, enillodd Gradd BSc gydag Anrhydedd mewn Bioleg Amgylcheddol ynghyd â HNC mewn Technoleg Bwyd ar ôl iddi benderfynu ar yrfa o fewn y sector bwyd. Mae'n meddu ar brofiad o ddadansoddi penodol drwy weithio gyda'r Dadansoddwr Cyhoeddus ac ers ymuno â Chanolfan Bwyd Cymru mae hi wedi arbenigo mewn Technoleg Cig a Rheolaeth yr uned torri cig sydd wedi'i thrwyddedu.

 

pam@foodcentrewales.org.uk

Image of Meat technicain - Pam thompson

Cydlynydd: Janet Jones

 

Ymunodd Janet â'r tîm gweinyddol yn Ebrill 2005 yn dilyn swydd yn Adran Gyllid Awdurdod Iechyd Caerfyrddin. Ei phrif gyfrifoldebau yn cynnwys: goruchwylio materion yn ymwneud â Gweinyddiaeth a Marchnata, gwaith yn ymwneud ag ariannu/cyllid (llyfrau cyfrifon prynu a gwerthu) yn ogystal â threfnu cyfarfodydd/seminarau sydd i'w cynnal yng Nghanolfan Bwyd Cymru.

 

janet@foodcentrewales.org.uk

Image of Coordinator - Janet jones

Gweinyddwraig y Ganolfan: Irene Moyle

 

Mae Irene yn darparu cymorth gweinyddol a hefyd yn gyfrifol am bob ymholiad sy'n ymwneud â hyfforddiant.

 

 

irene@foodcentrewales.org.uk

Image of Centre Administrator - Irene Moyle

Technegydd Bwyd: Rhian Jones

 

Ymunodd Rhian â Chanolfan Bwyd Cymru yn Hydref 2005. Yn 2004, enillodd Gradd mewn Rheolaeth Lletygarwch a Busnes, gan dreulio'r flwyddyn ganlynol yn cael profiad o weithio yn y sector bwyd ac arlwyo. Rhian yw ein technegydd bwyd ac mae hi hefyd yn gyfrifol am gymorth cyntaf ynghyd ag iechyd a diogelwch.

 

rhianh@foodcentrewales.org.uk

Image of Food Technician - Rhian Howells

Cynorthwyydd Cyffredinol : Amanda Draper

 

 

 

 

   



Hawlfraint Canolfan Bwyd Cymru 2006 | Ymwadiad | Hwyluso Mynediad | CSS Dilys | XHTML Dilys