

Mewn unrhyw fusnes, y bobl sydd ynghlwm â'r busnes sydd bwysicaf, a gall pobl sydd wedi'u hyfforddi yn gywir, sy'n ymroddedig ac yn hyderus yn eu gallu eu hunain gyfrannu'n fawr tuag at eich llwyddiant. Dyma'r rheswm paham y mae Canolfan Bwyd Cymru, drwy gydweithio gyda nifer o ddarparwyr, yn darparu'r cyrsiau hyfforddiant gorau posibl. Gwnewch yn siwr eich bod yn cael y gorau allan o'ch Staff a rhowch iddynt yr wybodaeth i wneud eu gwaith i'r safon uchaf posibl. Canolfan Bwyd Cymru sy'n darparu'r cyrsiau hyfforddiant ar fwyd.
Mae rhestr gyfan o'r cyrsiau isod. Mae Canolfan Bwyd Cymru yn darparu cyrsiau mewnol sydd wedi'u teilwra'n arbennig i fodloni cyfarwyddyd HACCP yn y sectorau cig, llaeth ac arlwyo. Gellir astudio sgiliau sylfaenol yn ymwneud â chig a'u cymhwyso mewn modd ymarferol. Mae'r adain newydd ar gyfer hyfforddi'r rhai yn y sector llaeth yn darparu sgiliau hyfforddi sylfaenol yn ymwneud â llaeth.
| Teitl y cwrs | Manylion | Y gost |
| Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo / Cynhyrchu | Cwrs 1 diwrnod ar gyfer pobl sy'n trin bwyd yn ymwneud â phob agwedd o ddiogelwch bwyd. Cwrs Nesaf: MISOL Ffonwch am Fanylion |
£55.00 |
| Lefel 3 Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo / Cynhyrchu | Cwrs 3 diwrnod wedi'i anelu at oruchwylwyr bwyd o fewn y diwydiant bwyd ac arlwyo. 23, 25, Ebrill 26, 2012 |
£265.00 |
| Lefel 2 mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gwelthle | Lefel 2 - Tystysgrif Iechyd a Diogelwch - £70 Cwrs 1 diwrnod yn ymwneud â materion Iechyd a Diogelwch o fewn y gweithle. Ffonwch am Fanylion |
£70.00 |
| Lefel 3 mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle | Cwrs 4 diwrnod wedi'i anelu at oruchwylwyr er mwyn ymdrin â pholisïau a dulliau gweithredu iechyd a diogelwch. Ffonwch am Fanylion |
£265.00 |
| Gwerthusiad yn ymwneud â'r Synhwyrau | Cwrs rhagarweiniol am 1 diwrnod yn ymdrin â gwerthusiad sy'n ymwneud â'r synhwyrau. Ffonwch am Fanylion |
| Pasteureiddio | Cwrs 1 diwrnod wedi'i anelu'n bennaf at weithredwyr pasteureiddio a rhai sy'n derbyn hyfforddiant mewn pasteureiddio er mwyn gwella diogelwch y cynnyrch. Ffonwch am Fanylion | £90.00 |
| Sgiliau Torri Cig Oen | Cwrs 1 diwrnod, yn darparu sgiliau torri cig sylfaenol i'r un sy'n derbyn hyfforddiant. Ffonwch am Fanylion: 12 Ebrill 2012 (dydd Iau) |
£180.00 |
| Sgiliau Torri Cig Eidion | Cwrs 3 diwrnod, yn darparu sgiliau torri cig sylfaenol i'r un sy'n derbyn hyfforddiant. Ffonwch am Fanylion |
| Sgiliau Torri Cig Mochyn | Cwrs 2 ddiwrnod, yn darparu sgiliau torri cig sylfaenol i'r un sy'n derbyn hyfforddiant. |
£280.00 |
| Sgiliau Halltu Cig Mochyn | Cwrs 1 diwrnod, yn darparu sgiliau torri cig sylfaenol i'r un sy'n derbyn hyfforddiant. 31 Mai 2012 (dydd Iau) |
£140.00 |
| Codi a Thrin Pwysau – Egwyddorion ac Arferion | Cwrs un diwrnod ar gyfer pob gweithiwr, ynghylch agweddau diogel o drin a chodi â llaw Ffonwch am Fanylion |
£65.00 |
| Cymorth Cyntaf Person yn y Gwaith Mewn Argyfwng | Cwrs 1 diwrnod yn ymwneud â materion cymorth cyntaf yn y gweithle. Gwanwyn 2012 | £90.00 |