

Os ydych yn ymwneud â’r diwydiant bwyd neu yn ystyried sefydlu busnes newydd, dylech yn gyntaf gysylltu â Chanolfan Bwyd Cymru i’ch cynorthwyo.
Pa un ai a ydych yn datblygu cynnyrch newydd ai peidio, yn dechrau cynhyrchu am y tro cyntaf neu’n chwilio am gyngor neu hyfforddiant arbenigol, mae’r tîm o staff sydd gennym yn y ganolfan dechnoleg fwyd bwrpasol hon yn wybodus ac yn ddyfeisgar ac yn gallu darparu’r holl atebion.
Gallwn eich tywys drwy’r holl broses, gan droi eich syniad, o fod yn brawf yn ymwneud â chynnyrch bwyd, yn realiti.