Amdanom

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn ganolfan technoleg bwyd bwrpasol sy’n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith. 

Os oes gennych syniad newydd gwych am gynnyrch ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, neu os ydych chi’n gynhyrchydd profiadol sydd angen cymorth gyda mater penodol neu gymorth i ennill achrediad, gall ein Technolegwyr Bwyd arbenigol eich tywys a’ch cynorthwyo drwy’r broses gyfan. 

Mae gan y ganolfan adeilad Ymchwil a Datblygu pwrpasol gyda chyfleusterau heb eu hail i gynhyrchwyr bwyd ddatblygu cynnyrch newydd a chynnyrch sydd eisoes yn bodoli. Diben y cyfleuster technegol yw galluogi cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu cynhyrchion ar raddfa ddiwydiannol fach. Mae Technolegwyr Bwyd Arbenigol wrth law i gynorthwyo pobl i ddefnyddio ein holl gyfarpar ac ardaloedd prosesu, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad gydol y broses. Byddant yn eich cynorthwyo i gynhyrchu’ch ryseitiau ar raddfa fwy, eich hyfforddi i ddefnyddio’r offer, gosod amodau prosesu - i gyd yn hanfodol os ydych am gynhyrchu bwyd.

Rheolwr y Ganolfan - Angela Sawyer

Rheolwr y Ganolfan - Angela Sawyer

Ymunodd Angela â’r tîm yn 2002. Hi yw’r Uwch Dechnolegydd Bwyd yma yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Gyda phrofiad helaeth o ddiwydiant mewn ystod eang o brosesau bwyd a diod, mae hi’n gallu gweithredu systemau rheoli ac archwilio diogelwch bwyd mewn busnesau o bob maint. Mae Angela hefyd yn hyfforddwr profiadol dros ben, yn gymwys i gyflwyno gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant o ran diogelwch bwyd, datblygu cynnyrch newydd, sgiliau ymarferol a thechnoleg bwyd. Gyda phrofiad ym meysydd cig, cynnyrch llaeth, danteithion a phobyddiaeth, mae Angela’n meddu ar y gallu i gynorthwyo pob math o fusnes gyda’u hanghenion technegol.

Swyddog Datblygu Busnes - Natalie Fulstow

Swyddog Datblygu Busnes - Natalie Fulstow

Mae Natalie yn gyfrifol am farchnata, rheoli digwyddiadau a chydgysylltu gyda busnesau newydd a darpar gwsmeriaid i alluogi'r busnes i ddatblygu. Ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Busnes a Thechnoleg Dylunio, cafodd Natalie ugain mlynedd o brofiad mewn Datblygu Busnes a Marchnata ar draws ystod o sectorau trwy Gymru gyfan, yn cynnwys un mlynedd ar bymtheg yn rhedeg ei busnes ei hun. Ymunodd â Chanolfan Bwyd Cymru fel Swyddog Datblygu Busnes yn 2017.

Swyddog Hyfforddi - Catherine Cooper

Swyddog Hyfforddi - Catherine Cooper

Ymunodd Catherine â’r tîm ym mis Ionawr 2019 fel Swyddog hyfforddi. Bydd yn trefnu, creu a chyflwyno hyfforddiant ar wahanol agweddau o egwyddorion ac arferion Diogelwch Bwyd, ac mae'n hapus i helpu i drefnu hyfforddiant arall yn seiliedig ar ofynion cwmnïau unigol. Mae Catherine yn dod ag 20 mlynedd o brofiad diwydiant gyda hi, gyda phrofiad cynhyrchu helaeth ac arbenigedd mewn Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd a rheoli alergenau. Mae Catherine hefyd yn helpu i gydlynu’r gwaith o gyflawni prosiectau a ariennir, a gallwch ddisgwyl ei gweld yn ymwneud â llawer o feysydd rheoli perthnasoedd cleientiaid ar gyfer cleientiaid a ariennir a chleientiaid masnachol sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Technolegydd Bwyd - Mark Jones

Technolegydd Bwyd - Mark Jones

Mae Mark Jones yn Dechnolegydd Bwyd yn arbenigo mewn Cynnyrch Llaeth, systemau ansawdd a datblygu prosesau. Mae gan Mark radd mewn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ynghyd â nifer o gymwysterau diwydiannol, gan gynnwys Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau. Ymunodd â’r tîm yn 2015. Mae ganddo ddwy flynedd ar bymtheg o brofiad yn y diwydiant Cynnyrch Llaeth mewn busnesau o faint amrywiol, ac mae wedi ennill gwobrau niferus.

Technolegydd Bwyd - Rhian Jones

Technolegydd Bwyd - Rhian Jones

Mae Rhian yn Dechnegydd Bwyd gyda dros 11 mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws nifer o sectorau yn y diwydiant bwyd. Ers ymuno â Chanolfan Bwyd Cymru yn 2005 mae wedi meithrin diddordeb arbennig mewn NPD, cig a thechnoleg barod i'w fwyta gan weithio gyda chleientiaid i ddod â chynnyrch newydd i'r farchnad. Yn ogystal, mae wedi ehangu ei phortffolio i ddod yn Hyfforddwr Diogelwch Bwyd achrededig ar gyfer cyrsiau a ddarperir gan Ganolfan Bwyd Cymru.

Technolegydd Bwyd - Gerallt Morris

Technolegydd Bwyd - Gerallt Morris

Ymunodd Gerallt Morris â'r tîm fel Technolegydd Bwyd yn 2015. Mae gan Gerallt radd mewn Cemeg a sawl cymhwyster diwydiannol. Mae wedi gweithio yn y diwydiant bwyd am dros ddeng mlynedd. Mae Gerallt yn arbenigo mewn Systemau Ansawdd, Rheoli Ansawdd, Effeithlonrwydd Prosesau ac mae wedi helpu sawl cwmni i symud o'r cyfnod datblygu cynnyrch newydd i roi’r cynnyrch ar y silff.

Technegydd Bwyd - Ceris Moyle

Technegydd Bwyd - Ceris Moyle

Ymunodd Ceris Moyle â'r tîm technegol fel technegydd bwyd. Mae ei phrif ddyletswyddau'n cynnwys systemau rheoli ansawdd a systemau dogfennaeth. Mae gan Ceris brofiad eang ers dechrau yn y diwydiant bwyd yn 2002 o fewn y sectorau cynhyrchu a manwerthu. Graddiodd mewn Technoleg Gwybodaeth Busnes yn 2014.

Cynorthwydd Cyffredinol - Amanda Draper

Cynorthwydd Cyffredinol - Amanda Draper

Mae Amanda yn sicrhau bod safonau hylendid a diogelwch bwyd yn cael eu cynnal i lefel uchel yn y ganolfan Arloesi a Gweithgynhyrchu. Mae'n cefnogi Technolegwyr Bwyd ac yn cynorthwyo busnesau bwyd sy'n defnyddio'r cyfleusterau prosesu bwyd. Roedd Amanda yn hunangyflogedig ym maes arlwyo a'r sector bwyd am 20 mlynedd a bu'n gweithio yng Nghanolfan Bwyd Cymru am 13 mlynedd.

Cydlynydd y Ganolfan - Annwen Gale

Cydlynydd y Ganolfan - Annwen Gale

Ymunodd Annwen Gale â’r tîm ym Medi 2017 fel Cydlynydd y Ganolfan. Ei rôl yw darparu cymorth gweinyddu a chydlynu i bob adran yn y Ganolfan. Mae Annwen wedi bod yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch ers dros ugain mlynedd mewn ystod o leoliadau o fewn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.

 

 

 

 

Swyddog Datblygu Busnes (Marchnata a Chyfathrebu) - Ceris Griffiths

Ymunodd Ceris â thîm Canolfan Bwyd Cymru ym mis Awst 2019 ac mae’n cyd-arwain ar bob agwedd ar farchnata (digidol a phrint), yn cynnwys cynnal a chadw'r gwefan ac mae’n gyfrifol am gyfathrebu dwyieithog y Ganolfan. Mae hi hefyd yn gyd-drefnydd yr holl ddigwyddiadau a arweinir gan Ganolfan Bwyd Cymru. Ers graddio gyda gradd Rheolaeth Busnes yn 2005, mae hi wedi gweithio yn y diwydiant lletygarwch, yn ogystal â chael profiad ymarferol o redeg busnes manwerthu teuluol.

 

Os ydych yn rheoli cwmni bwyd yng Nghymru, yn gweithio i gynhyrchydd bwyd rhyngwladol, neu’n cymryd eich camau petrusgar cyntaf tuag at sefydlu microfusnes bwyd, Arloesi Bwyd Cymru yw’r lle gorau i gael cymorth, cyngor a syniadau creadigol i’ch helpu i gychwyn, ehangu a chanfod atebion i faterion gweithredol a thechnegol.

Erbyn hyn mae’r diwydiant bwyd yn faes llawer mwy cymhleth i weithredu ynddo: gyda chystadleuaeth fyd-eang, mwy o bwyslais ar brisiau, prosesau caffael cymhleth, a mwy a mwy o graffu moesegol ac amgylcheddol, mae datblygu busnes bwyd yn her go iawn. Nid yw’n syndod felly, bod llawer o gwmnïau’n methu oherwydd diffyg arbenigedd neu adnoddau mewn meysydd penodol.

Dyma lle y mae Arloesi Bwyd Cymru yn bwysig: mae ein tîm o arbenigwyr profiadol, sy’n gweithio mewn Canolfannau Bwyd ledled Cymru, wrth law i gynorthwyo’r diwydiant bwyd drwy ddarparu cyngor ac anogaeth, cymorth technegol, syniadau arloesol, a chanllawiau ar gymhlethdodau rheoleiddio a deddfwriaethol. 

Mae gan Arloesi Bwyd Cymru dîm o arbenigwyr y diwydiant bwyd a gydnabyddir yn rhyngwladol ac maen nhw ar gael i helpu cleientiaid i ddeall casgliad cymhleth o ddisgyblaethau bwyd, sy’n cynnwys maeth a deieteg, iechyd yr amgylchedd, datblygu cynnyrch newydd, cynllunio ffatrïoedd a gweithleoedd, sicrwydd ansawdd, hylendid, diogelwch bwyd, marchnata ac effeithlonrwydd.

 

Gyda gwerth degawdau o brofiad, nod Arloesi Bwyd Cymru yw helpu’r busnesau bwyd i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd. Ymunwch â’r busnesau bwyd di-ri sydd eisoes wedi cael budd o gael cymorth a chyngor gan ein tîm, a chysylltwch â ni i ddysgu sut i gael mwy o lwyddiant yn y diwydiant bwyd.

 

Mae prosiect HELIX yn un o Fentrau Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o helpu i ddatblygu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Gall y Diwydiant Bwyd yng Nghymru fanteisio ar y cyllid mawr ei angen sydd ar gael er mwyn helpu eu busnesau i dyfu yn y farchnad. Gall cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a chynhyrchwyr sydd eisoes ar waith gael gafael ar gymorth pwrpasol gan Dechnolegwyr Bwyd sydd wedi’i deilwra’n benodol i’r busnes.   

 

Bydd Prosiect HELIX yn cynorthwyo cynhyrchwyr bwyd dros y pum mlynedd nesaf yn y meysydd canlynol:

Arloesedd –rhoi cynnyrch arloesol newydd a chwmnïau bwyd newydd ar lwybr carlam  

Effeithlonrwydd – helpu busnesau i leihau gwastraff wrth brosesu bwyd gan sicrhau arbedion ariannol a llai o wastraff

Strategaeth – ceisio sicrhau diwydiant o safon fyd-eang gyda sgiliau uwch mewn meysydd allweddol, fel technoleg bwyd

 

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn bartner allweddol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru, sy’n hwb sylweddol i ddiwydiant bwyd ac economi Cymru. Disgwylir iddi greu 370 o swyddi newydd yn y gwahanol ganolfannau, gan ddiogelu 2,000 yn rhagor o swyddi yr un pryd yn ogystal â chyfrannu £100 miliwn a mwy at economi Cymru. 

 

Datblygwyd prosiect HELIX gan Arloesi Bwyd Cymru, sy’n bartneriaeth rhwng y tair canolfan fwyd yng Nghymru:-

  • Canolfan Bwyd Cymru, Ceredigion
  • Canolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai
  • Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Diwydiant Bwyd Cymru

Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru rôl strategol wrth roi cymorth technegol i Ddiwydiant Bwyd Cymru ac fe’i sefydlwyd ym 1996 gan Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o’i strategaeth Datblygu Economaidd. Yn 2001, diolch i gyllid gan Gynllun Her Cyfalaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, agorwyd Adeilad Ymchwil a Datblygu gwerth £1.7 miliwn. Mae gan yr adeilad hwn ardaloedd prosesu, yr holl gyfarpar angenrheidiol yn ogystal â chyfleusterau cynhyrchu ac maen nhw ar gael i’w llogi at ddibenion masnachol. Defnyddir y ganolfan i lansio syniadau newydd ac arloesol hefyd yn y Diwydiant Bwyd-Amaeth yng Nghymru, gan gydweithio’n agos â Chyfarwyddiaeth Bwyd Llywodraeth Cymru.