Arloesi Bwyd Cymru yn helpu i roi cynnyrch Cymreig ar lwyfan y byd

Mae Arloesi Bwyd Cymru wedi lansio’r cyfeirlyfr digidol cynhwysfawr cyntaf o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.

Mae’r cyfeirlyfr, sy’n cynnwys cofnodion o dros 430 o gwmnïau, wedi’i greu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwerthu cynhyrchion Cymreig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cynhwysir cwmnïau bach a mawr yn y cyfeirlyfr a gynhyrchwyd ar ran Bwyd a Diod Cymru ac fe’i defnyddir ar ymweliadau datblygu masnach ac arddangosfeydd ledled y byd. Gall defnyddwyr chwilio am gynhyrchydd yn seiliedig ar leoliad, categori cynnyrch, sianel gyflenwi ac ardystiad.

Wrth siarad am lansio’r cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac Is-Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

“Rydym am i gwmnïau bwyd a diod Cymru gael eu dathlu ar lwyfan byd eang. Bydd y cyfeirlyfr hwn yn help i godi proffil bwyd a diod arloesol o Gymru yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol.”

Mae Arloesi Bwyd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dwyn ynghyd dair canolfan ragoriaeth fwyd sy’n ymroddedig i annog datblygiad sector bwyd Cymru a darparu cefnogaeth dechnegol a gweithredol ar bob agwedd ar weithgynhyrchu bwyd. Ar hyn o bryd mae Arloesi Bwyd Cymru yn ymgymryd â Phrosiect HELIX, rhaglen £21 miliwn a ariennir trwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE i gryfhau sector bwyd a diod Cymru.

I ganfod rhagor am y cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, ewch i’r wefan: http://foodinnovation.wales/directory