Digwyddiad Arloesi Cynnyrch Bwyd a Diod

Cymorthfeydd Cychwyn Busnes ar gyfer cynhyrchwyr newydd a chynhyrchwyr bwyd

18 Mehefin 2019. 10yb - 2yp

Rydym yn cynnal digwyddiad eto eleni mewn partneriaeth â Gŵyl Arloesi Cymru...

 

Mae'r digwyddiad hwn yn gyflwyniad i brosesu a gweithgynhyrchu bwyd

  1. Cyflwyniad
  • Y gwasanaethau cymorth sydd ar gael
  • Datblygu cynnyrch newydd
  • Cyfleoedd hyfforddi
  • Tueddiadau’r diwydiant a data’r farchnad
  • Cyllid HELIX Prosiect Arloesi Bwyd Cymru
  1. Taith o amgylch y cyfleusterau – Hyb Arloesi a Chynhyrchu
  2. Sesiwn un i un gyda thechnolegydd bwyd
  3. Ategolion
  • Sesiwn un i un gyda Busnes Cymru
  • Sesiwn un i un gyda Cywain

Bydd cinio ysgafn a lluniaeth ar gael yn y digwyddiad.

 

Cyflwyniad (tua 45 munud)

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda chrynodeb o sut i gychwyn busnes bwyd a diod a pha gymorth sydd ar gael yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Byddwn yn trafod datblygu cynnyrch newydd, hyfforddiant a data marcio hefyd, a’r cymorth sydd ar gael gan Arloesi Bwyd Cymru trwy gyllid Prosiect HELIX.

 

Taith o Ganolfan Bwyd Cymru (tua 45 munud)

Taith lawn o’r Hyb Arloesi a Chynhyrchu lle cewch weld y neuaddau a’r cyfarpar prosesu sydd ar y safle. Cyfle i werthfawrogi’r adnoddau sydd ar gael i’ch helpu ar brosiectau penodol.

 

Sesiwn un i un (tua 45 munud)

Cyfarfod un i un cyfrinachol gydag un o’n Technolegwyr Bwyd er mwyn trafod syniad am brosiect neu faterion technegol y gallwn eich helpu gyda nhw.

 

Sesiynau un i un dewisol

Bydd Busnes Cymru a Cywain yn egluro pa gymorth ariannol sydd ar gael i chi, a chewch archebu sesiwn un i un gyda’u cynghorwyr i drafod eich busnes neu’ch prosiect yn fanylach.

 

Pa feysydd arloesi fydd yn cael eu harddangos

Bydd arbenigwyr y diwydiant bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn helpu cleientiaid gydag amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau er mwyn helpu’r diwydiant bwyd a diod i arloesi a chyrraedd marchnadoedd newydd. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys: datblygu cynnyrch newydd, sicrhau ansawdd, datblygu prosesau, gweithgynhyrchu, cyrchu cynhwysion, cynllunio ffatri, cyrchu cyfarpar, llogi cyfleusterau, maethiad, labelu, iechyd amgylcheddol, hylendid a diogelwch bwyd.

 

Pwy ddylai fynychu

Ar gyfer busnesau cyfredol neu newydd, rydym yma i’ch helpu i chwalu’r rhwystrau o ran cyflwyno’ch cynnych i gwsmeriaid. Unrhyw un sy’n gweithio yn y sector bwyd a diod a hoffai ddysgu mwy am Ganolfan Bwyd Cymru.

 

Manteision mynychu

  • Cyngor a chanllawiau pwrpasol i’ch anghenion unigol chi
  • Siop un stop ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i’r diwydiant bwyd a diod
  • Cysylltiad â thechnolegwyr bwyd arbenigol

 

Manylion cyswllt

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, e-bostiwch gen@foodcentrewales.org.uk neu ffoniwch 01559 362230