Food Matters Live 2019

Bydd tîm Arloesi Bwyd Cymru ar stondin Bwyd a Diod Cymru yn Food Matters Live ar 19-20 Tachwedd yn yr ExCel, Llundain.

Bydd rhai o brif gwmnïau arloesol bwyd Cymru yn bresennol yn Food Matters Live, digwyddiad blynyddol sy’n ymroddedig i fwyd, iechyd a maeth yn ExCeL, Llundain. Bydd amrywiaeth o fwyd arloesol ar gael, o fwydydd wedi'u gwneud allan o bryfed i bobi heb glwten.

Mae Food Matters Live yn dod ynghyd a thraws-sector o arbenigwyr bwyd a diod gyda'r arloeson fwyd a diod fwyaf newydd, mwyaf cyffrous. Dewch i gael blas ar Gymru a siarad ag un o'n cwmnïau bwyd a diod Gymreig - Edrychwn ymlaen at gefnogi pedwar o'n cleientiaid a fydd yn arddangos eu cynhyrchion gwych ar Stondin Bwyd a Diod Cymru - Alchemy Gold, Bug Farm Foods, Welsh Gluten Free a Human Food.

Mae Alchemy Gold yn ddiod felys a sbeislyd wedi'i grefftio o gyfuniad o curcumin (y cyfansoddyn gweithredol mewn tyrmerig sy'n gyfrifol am yr holl fuddion iechyd sy'n gysylltiedig â thyrmerig).

Bug Farm Foods - Busnes bwyd Cymreig sydd wedi ennill gwobrau am ei gynnyrch a bwydydd blasus, arloesol ac unigryw - bwydydd sydd wedi'u gwneud â phrotein cynaliadwy'r dyfodol, pryfed. Byddant yn arddangos eu bisgedi Criced blasus, pryfed cyfan, powdrau pryfed a VEXo yn y digwyddiad.

Mae Human Food yn cynhyrchu bar maeth dyddiol organig, wedi'i lunio i gynnal diet sy'n seiliedig ar blanhigion. Mae Human Food yn gyfuniad o 20 o fwydydd organig cyfan a darnau bwyd cyfan, wedi'u dewis a'u cydbwyso ar gyfer y blas a'r bio-argaeledd gorau posibl.

Mae Welsh Gluten Free yn bobyddion o gynhyrchion heb wenith a glwten, sy'n addas ar gyfer Coeliacs. Maent yn pobi amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys bara fflat blasus ciabatta, teisennau a thartenni melys, fflapjacs a phasteiod.

Bydd tîm Arloesi Bwyd Cymru wrth law yn ystod y digwyddiad - dewch i ddarganfod sut y gallwn gefnogi eich cwmni bwyd a diod gyda chyngor technegol a masnachol, arweiniad ar ddatblygu cynnyrch newydd ac anogaeth ar gyfer eich cynnyrch arloesol.

Dewch i ymweld â stondin Bwyd a Diod Cymru G60-H60 yn Food Matters Live rhwng 19-20 Tachwedd i brofi amrywiaeth o gynhyrchion newydd ac arloesol.