GWEITHDY: Pecynnau Cynaliadwy a Phrosesu Effeithiol i Leithau Costau ac Ennill Busnes Newydd!!

4ydd Ebrill 2019 (10am-2pm) yng Nghanolfan Bwyd Cymru

Gweithdy gwych i unrhyw un sy'n gyfrifol am becynnu a phrosesu mewn busnes bwyd a diod yng Nghymru!

Gweithdy ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod - Pecynnu ac Effeithlonrwydd ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod!!

Nod y gweithdy hwn yw adeiladu ar fomentwm Cynhadledd Atal Gwastraff a gynhaliwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru ym mis Hydref 2018, trwy ymateb i rai heriau allweddol a oedd yn flaenoriaeth i fusnesau bwyd a diod a fynychodd y digwyddiad.  Mae Ecostudio yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Bwyd Cymru i gyflwyno'r gweithdai hyn.

 

Gall y sawl sy’n mynychu gweithdai ddisgwyl ennill y canlynol:

  • Dealltwriaeth o'r effeithiau a'r costau amgylcheddol sy'n codi yn ystod gweithgynhyrchu bwyd a diod, a lle mae'r effeithiau hyn yn digwydd yn eu proses eu hunain.
  • Y gallu i fesur yr effeithiau hyn, gosod blaenoriaethau a chymryd camau i wella effeithlonrwydd yn eu prosesau eu hunain gan ddefnyddio dulliau ymarferol.
  • Gwybodaeth am y deunyddiau pecynnu sydd ar gael (gan gynnwys plastig a phydradwy / bioddiraddadwy) ac ymarferoldeb defnyddio pob un.
  • Gwybodaeth ymarferol ar gyfer ffyrdd o atal gwastraff pecynnu trwy ddyluniad gwell (ee ailgylchu, dychwelyd, ailddefnyddio).

 

Hwylusydd

Arweinir y sesiwn weithdy gan Iain Cox o Ecostudio.  Iain yw Cyfarwyddwr Ecostudio. Mae'n ymarferydd cynaliadwyedd, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ac a gydnabyddir am ei waith arloesol gyda diwydiant bwyd a diod Cymru a thu hwnt.

 

4ydd Ebrill 2019 (10am-2pm) yng Nghanolfan Bwyd Cymru

 

Cost: AM DDIM (£75 y person fel arfer) - Ariennir trwy Gynllun HELIX (Arloesi Bwyd Cymru)

 

Sut ydw i'n archebu lle?

Ffôn 01559 362230 Neu anfonwch e-bost at gen@foodcentrewales.org.uk