Lansiad y Clwstwr Arweinwyr Busnes newydd

Mae Canolfan Fwyd Cymru wedi lansio'r Clwstwr Arweinwyr Busnes newydd cyffrous ar gyfer Canolbarth a De Orllewin Cymru.

Lansiwyd y Clwstwr Arweinwyr Busnes newydd cyffrous gan Ganolfan Bwyd Cymru ar 22 Hydref yng Ngwinllan Jabajak yn Hendy-gwyn ar Daf.

Mae’r Clwstwr Arweinwyr Busnes yn rhan o rwydwaith Llywodraeth Cymru ‘Clwstwr Bwyd a Diod Cymru’, sy'n dod a chyflenwyr, academyddion a’r llywodraeth at ei gilydd gyda’r nod allweddol o helpu busnesau i sicrhau twf cyflymach mewn gwerthiant, elw a chyflogaeth.

Nod y Clwstwr Arweinwyr Busnes yw bod yng nghanol tyfu economi’r sector bwyd yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru trwy hwyluso busnesau i weithio gyda’i gilydd ar themâu cyffredin a mentrau arloesol.

Mynychwyd cyfarfod cyntaf y clwstwr gan gymysgedd eang o weithgynhyrchwyr o ranbarthau De Orllewin a Chanolbarth Cymru, yn cynnwys: Castell Howell, Chantler Teas, Hufen Iâ Conti, Dairy Partners, Dunbia, Jenkins Bakery, Radnor Hills, The Little Welsh Deli a Tovali.

Dechreuodd y noson gyda chyflwyniad i aelodaeth newydd y clwstwr gan Arwyn Davies, Rheolwr Corfforaethol Twf a Menter. Yn dilyn oedd drosolwg o'r diwydiant gweithgynhyrchu Bwyd a Diod leol. Nodwyd y pedwar Grŵp Diddordeb Arbennig (SIG) allweddol hefyd.

Cynhaliodd y noson drafodaethau gwerthfawr, gyda’r grŵp yn nodi rhai meysydd canolbwynt allweddol ac aeth ymlaen i gynllunio digwyddiadau dyfodol - bydd y rhaglen glwstwr sydd ar ddod yn cynnwys cyfleoedd rhwydweithio, gweithdai a mentora.

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyda thema ‘Cymwysterau Amgylcheddol’.