Prosiect HELIX yn rhoi hwb o £235 miliwn i ddiwydiant bwyd a diod Cymru

Mae allbynnau diweddaraf Prosiect HELIX, menter a ddatblygwyd i hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn niwydiant bwyd a diod Cymru, yn dangos ei fod wedi cyflawni dros £235 miliwn o effaith, ers ei lansio yn 2016.

Mae Prosiect HELIX a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE yn fenter strategol Cymru gyfan, a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru, sy’n bartneriaeth o dair canolfan fwyd yng ngogledd, canolbarth/gorllewin a de Cymru.

Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o arbenigedd i’w helpu i dyfu a llwyddo trwy ddatblygu cynhyrchion newydd arloesol, cynyddu eu heffeithlonrwydd a mabwysiadu agwedd strategol at fusnes.

Hyd yma mae Prosiect HELIX wedi sicrhau manteision clir i ddiwydiant bwyd a diod Cymru gan gynnwys:

  • £235 miliwn o effaith
  • Creu 529 swydd a diogelu 2755 arall
  • Cefnogi 996 unigolyn a 628 busnes
  • Ymgymryd â 1039 diwrnod hyfforddi
  • Cynorthwyo 394 busnes newydd
  • Cyrchu 905 marchnad newydd, a
  • Datblygu 1587 cynnyrch bwyd a diod newydd

Wrth sôn am y llwyddiant, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

Mae’r ffigurau hyn yn dangos yr effaith gadarnhaol mae Prosiect HELIX wedi’i chael ar ein diwydiant bwyd a diod ac yn tanlinellu pwysigrwydd helpu busnesau i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd.

“Hwb o £235 miliwn, creu swyddi newydd a diogelu rhai eraill, datblygu cynhyrchion newydd, lansio busnesau newydd, gweithlu mwy medrus – mae hyn i gyd yn helpu i wella enw da Cymru a’r diwydiant bwyd a diod rhyngwladol ymhellach. Byddwn yn annog cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr i archwilio pa gymorth sydd ar gael trwy Brosiect HELIX a sut y gall ei arbenigedd a’i gyfleusterau technegol uwch fod o fudd iddynt.”

Ymhlith y cwmnïau sydd wedi derbyn cymorth gan Brosiect HELIX mae Puffin Produce. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Huw Thomas,

O ganlyniad i’r wybodaeth a’r arbenigedd gan Arloesi Bwyd Cymru, rydyn ni wedi gallu addasu a chryfhau ein systemau rheoli ansawdd yn Puffin Produce; gan arwain at gynnal ein hardystiad BRCGS a’r Tractor Coch. Mae’r gefnogaeth a gawson ni gan Brosiect HELIX wedi bod yn amhrisiadwy ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw.”

Ychwanegodd Alana Spencer, o Ridiculously Rich,

Roedd y cymorth sydd ar gael gan Arloesi Bwyd Cymru yn anhygoel ac ni fydden ni wedi gallu ei wneud hebddynt. Roedden nhw yno bob cam o’r ffordd, cyn i ni hyd yn oed adeiladu’r becws! Gwnaethon nhw ein helpu gydag unrhyw gwestiwn, boed yn fawr neu’n fach, a daethon nhw allan i ymweld â ni ar y safle ar sawl achlysur hyd yn oed i’n harwain yn y ffordd orau i gael ein cymeradwyo gan SALSA. Mae’r cyllid sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yn hynod ddefnyddiol, byddai’r broses wedi cymryd llawer mwy o amser pe na baen ni wedi cael y cymorth hwn ac efallai y byddai wedi gohirio twf y busnes yn sylweddol.”

Yn y cyfamser, i Emma Morris, Rheolwr Datblygu Busnes Trailhead Fine Foods,

Mae’r cyngor a chymorth mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi’u rhoi i ni wedi bod yn amhrisiadwy. Gyda’u cymorth nhw rydyn ni wedi gallu cadw ein hardystiad SALSA. Heb ardystiad o’r fath mae’n anodd i fusnesau bwyd dyfu ac mae wedi cynnig cyfleoedd gwych i ni ennill cwsmeriaid newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd.

“Nid yn unig mae’r ganolfan wedi ein helpu ond mae’r ddogfennaeth berthnasol wedi ein hysbrydoli i gymryd perchnogaeth o’r broses fel y gallwn ddysgu a datblygu. Mae tîm cyfan y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn gefnogol a chymwynasgar. Maen nhw wedi bod yno drwy’r amser, gan roi sicrwydd inni ein bod yn dilyn y llwybr cywir.”

Mynegodd yr Athro David Lloyd, ar ran Arloesi Bwyd Cymru, ei falchder gyda’r ffigurau diweddaraf,

“Trwy Brosiect HELIX rydyn ni wedi gallu cefnogi busnesau bwyd a diod yng Nghymru drwy uwchsgilio’r gweithlu, cefnogi busnesau newydd, creu a diogelu swyddi a helpu busnesau i dyfu a ffynnu.

“Mae’r sector bwyd a diod yn hanfodol i economi Cymru a thrwy weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y byd academaidd a diwydiant bwyd Cymru rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer arloesi, creu swyddi a thwf economaidd o fewn y sector bwyd a diod.

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth a ariennir gan Brosiect HELIX, ewch i https://foodinnovation.wales/cefnogaeth-wedii-hariannu/?lang=cy