Gwasanaethau

Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru dîm o Dechnolegwyr Bwyd arbenigol yn cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.

Os oes gennych syniad newydd gwych am gynnyrch ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, neu os ydych chi’n gynhyrchydd profiadol sydd angen cymorth gyda mater penodol neu gymorth i ennill achrediad gyda BRC (Chonsortiwm Manwerthu Prydain) neu SALSA (Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Lleol), gall ein Technolegwyr Bwyd helpu i’ch tywys a’ch cynorthwyo drwy’r broses gyfan.

Mae ein Technolegwyr Bwyd yn brofiadol iawn ym mhob sector o’r diwydiant cynhyrchu bwyd a gallant helpu i ddatrys eich problemau technegol neu ddatblygu eich cynnyrch. Gallant gynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gynhyrchu bwyd, gan gynnwys:

  • Labelu a Phecynnu
  • Effeithlonrwydd Cynhyrchion a Phrosesau
  • Cynllun Ffatrïoedd
  • Chwilio am Offer
  • HACCP
  • Dilysu Systemau

Mae profiad masnachol ein Technolegwyr Bwyd yn eu galluogi i gynnig cymorth sylweddol wrth i chi berffeithio eich systemau rheoli diogelwch bwyd. Maen nhw’n cynnig cymorth gyda’r canlynol:-

  • Achredu Trydydd Parti (SALSA a BRC)
  • Arferion Cynhyrchu Da
  • Rhaglenni sy’n Rhagofynion

Mae ein Technolegwyr Bwyd yn arbenigwyr ar ddatblygu cynnyrch cwbl newydd a chynnyrch sydd eisoes yn bodoli a gallant eich helpu gydol y broses gyfan:-

  • Datblygu Cynnyrch
  • Ailffurfio Cynnyrch
  • Masnacheiddio
  • Dadansoddiadau Oes Silff
  • Gwerthuso Gwybyddol
  • Maeth a Labelu
  • Cyfarwyddiadau Coginio
  • Pecynnu

Cychwyn Busnes Prosesu Bwyd a Diod

Ydych chi'n ystyried fod yn gynhyrchydd bwyd neu ddiod? Neu oes angen help arnoch gyda Datblygu Cynnyrch Newydd? Neu efallai eich bod am gynyddu eich cynhyrchiad cartref?

Rydym yn rheoli pob cleient newydd trwy ein cymorthfeydd cychwyn busnes yn ddeufisol, gweler y manylion isod gan obeithio y byddwn yn medru cefnogi chi.

Rhaglen:-

1. Cyflwyniad byr gan ein Swyddog Datblygu Busnes yn ymdrin â:-

  • Manylion am ein gwasanaethau a sut y gallwn eich helpu
  • Sut gallwch chi elwa o Brosiect HELIX
  • Rhestr wirio ar gyfer busnesau newydd
  • Sut i gyrchu gwybodaeth am y farchnad

2. Taith o amgylch y cyfleuster gweithgynhyrchu a phrosesu yng Nghanolfan Bwyd Cymru.

3. Cyfarfod 1-2-1 gyda Thechnolegydd Bwyd i ofyn cwestiynau penodol a chynllunio'r camau nesaf.

4. Cyflwyniad byr gan Fusnes Cymru a Chywain yn egluro sut y gallant gefnogi

5. Cyfarfodydd 1-2-1 gyda Chywain a/neu Fusnes Cymru os oes angen.


Mae'r sesiynau'n dechrau am 10yb, gan ganiatáu hyd at 2 awr ar gyfer y cyflwyniadau a'r daith, ac yna apwyntiad hanner awr 1-2-1 gyda Thechnolegydd Bwyd. Mae gennym hefyd Gynghorydd Busnes o Fusnes Cymru a Rheolwr Datblygu Busnes o Gywain ar gael y gallwch gwrdd. Darperir lluniaeth ysgafn a chinio ysgafn yn ystod y sesiwn.

Sesiynau nesaf:

6ed Mawrth 2024

24ain Ebrill 2024

5ed Mehefin 2024

17eg Gorffennaf 2024

Os hoffech ddarganfod mwy am dderbyn cefnogaeth ar gyfer cychwyn busnes gan Ganolfan Bwyd Cymru, cofrestrwch eich diddordeb trwy gysylltu â'n Swyddog Datblygu Busnes trwy e-bost: gen@foodcentrewales.org.uk neu dros y ffôn: 01559 362230

Arloesi Bwyd Cymru yn helpu i roi cynnyrch Cymreig ar lwyfan y byd

Mae Arloesi Bwyd Cymru wedi lansio’r cyfeirlyfr digidol cynhwysfawr cyntaf o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Mae’r cyfeirlyfr, sy’n cynnwys cofnodion o dros 430 o gwmnïau, wedi’i greu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwerthu cynhyrchion Cymreig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cynhwysir cwmnïau bach a mawr yn y cyfeirlyfr a gynhyrchwyd ar ran Bwyd a Diod Cymru ac fe’i defnyddir ar ymweliadau datblygu masnach ac arddangosfeydd ledled y byd. Gall defnyddwyr chwilio am gynhyrchydd yn seiliedig ar leoliad, categori cynnyrch, sianel gyflenwi ac ardystiad.

Wrth siarad am lansio’r cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac Is-Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

“Rydym am i gwmnïau bwyd a diod Cymru gael eu dathlu ar lwyfan byd eang. Bydd y cyfeirlyfr hwn yn help i godi proffil bwyd a diod arloesol o Gymru yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol.”

Mae Arloesi Bwyd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dwyn ynghyd dair canolfan ragoriaeth fwyd sy’n ymroddedig i annog datblygiad sector bwyd Cymru a darparu cefnogaeth dechnegol a gweithredol ar bob agwedd ar weithgynhyrchu bwyd. 

I ganfod rhagor am y cyfeirlyfr cynhyrchwyr bwyd a diod, ewch i’r wefan: http://foodinnovation.wales/directory