Cyfleusterau

  • Risg Isel
  • Risg Uchel
  • Prosesu Hylifau

 

Mae ein hardaloedd prosesu’n cynnwys holl gyfarpar prosesu sylfaenol y diwydiant er mwyn hwyluso pob agwedd ar brosesu masnachol:-

  • Offer torri cig
  • Prosesu pellach
  • Amlbrosesu
  • Ardal becynnu
  • Pasteureiddio hylifau
  • Prosesu cynnyrch llaeth wedi’i feithrin
  • Prosesu cynnyrch llaeth heb ei feithrin

Mathau o Gynnyrch y gallwch eu Prosesu yma

 

Prosesu Cig:-

 

Toriadau cig amrwd

Cig wedi’i halltu

Cig wedi’i farinadu

Byrgers

Selsig

Cebabs

Hamiau

Peis

Peli cig

Cig wedi’i sleisio

Prosesu Cynnyrch Llaeth:-

 

Caws caled

Caws meddal

Menyn

Hufen wedi’i feithrin

Llaeth â blas                     Iogwrt

Diodydd iogwrt

Hufen iâ

Iogwrt wedi’i rewi

Gwirodydd hufen

Cynnyrch llaeth wedi’i feithrin

Aml-brosesu:-

 

Cawl

Prydau parod

Sawsiau

Diodydd

Cacennau

Bisgedi

Pastai

Pizzas

Peis

Grawnfwyd

Bara

Pasta ffres

Melysion

Cynnyrch crwst

Cynnyrch â briwsion bara

Cyffeithiau (jamiau a siytnis)

Paratoi llysiau a ffrwythau

Llysiau rhost

Dresin mayonnaise

Pwdinau (Mouse a theisennau caws)

Nod yr unedau prosesu bwyd annibynnol yw cynorthwyo busnesau newydd i gymryd y cam cyntaf tuag at gynyddu cynhyrchiant a datblygu eu busnesau.

Gall busnesau bwyd arloesol logi’r cyfleusterau bwyd hyn sydd o’r radd flaenaf am hyd at bum mlynedd, sy’n eu helpu i gynyddu cynhyrchiant a datblygu eu busnesau heb gostau gwario ar adeiladau.

Gyda chymorth Cyllid Ewropeaidd Amcan 1 a nawdd cyfatebol gan Gronfa Adfywio Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, adeiladwyd pedair Uned Deor yng Nghanolfan Bwyd Cymru, sy’n gyfleusterau unigryw yng Nghymru. Ers eu sefydlu yn 2005, mae’r unedau wedi helpu nifer fawr o fusnesau newydd i dyfu a ffynnu yn fusnesau prosesu bwyd llwyddiannus iawn, gan gyflenwi ar hyd a lled Cymru, y DU ac allforio dramor hyd yn oed.

  • 4 uned x 156 metr sgwâr (yr ardal fewnol)
  • Ardal Gynhyrchu 13m x 7m
  • Lle Swyddfa
  • Toiled
  • Ystafell Staff
  • Ardal Hylendid
  • Ardal Golchi Offer
  • Prif Gyflenwad Dŵr a Thrydan - cynnwys cyflenwad teirgwedd

Rhent blynyddol yn dechrau o £6,500 y flwyddyn

Pum mlynedd yw’r cyfnod hiraf y gellir rhentu

I wneud cais am Ddatganiad o Ddiddordeb mewn Uned Deor, ffoniwch 01559 362230 neu e-bostiwch: gen@foodcentrewales.org.uk
Mae argaeledd yn gyfyngedig a bydd unrhyw ymholiadau yn cael eu hychwanegu at restr aros a'u hysbysu pan fydd Uned Deor ar gael.
Wrth wneud cais, byddai angen i fusnesau â diddordeb anfon Cynllun Busnes diwedar a bydd proses ddethol derfynol yn cael ei gwneud ar gyfer tenant llwyddiannus.

 

Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru ystafell gynadledda bwrpasol gyda thechnoleg bwrdd SMART o’r radd flaenaf a system aerdymheru. Gellir cynnal seminarau ar gyfer 40 o bobl yn yr ystafell ar ffurf theatr neu weithdai ar gyfer 20 o bobl. Mae detholiad cynhwysfawr o gymhorthion cyflwyno ar gael a gellir darparu cinio bwffe ar gais. Mae ystafell gyfarfod ar gyfer grwpiau llai o hyd at 10 o bobl ar gael yn y Ganolfan hefyd.

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn cynnig cyfleusterau hen eu hail i gynhyrchwyr bwyd ddatblygu cynnyrch newydd.

Mae’r un cyfleusterau’n cynnig cyfle i greu cynhyrchion bwyd newydd i’r rhai sydd am ychwanegu gwerth at eu cynnyrch eu hunain. Mae’r adeilad Ymchwil a Datblygu 880m2 yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu helaeth ac mae ar gael i’w logi at ddibenion masnachol ac ar gyfer datblygu a threialu cynnyrch newydd.

Mae’r saith ardal brosesu ar wahân yn cynnwys cyfarpar o’r safon uchaf a gallant gael eu defnyddio i gynhyrchu amrywiaeth eang o fwydydd yn cynnwys cynnyrch llaeth, cig, melysion, llysiau a chynnyrch o’r popty. Mae storfeydd ar gyfer oeri a rhewi bwyd ar gael hefyd. 

Mae Technolegwyr Bwyd Arbenigol wrth law i gynorthwyo pobl i ddefnyddio ein holl gyfarpar ac ardaloedd prosesu. Byddant yn eich cynorthwyo i gynhyrchu’ch ryseitiau ar raddfa fwy, eich hyfforddi i ddefnyddio’r offer, gosod amodau prosesu – i gyd yn hanfodol os ydych am gynhyrchu bwyd. Cynlluniwyd y cyfleuster technegol fel ag i alluogi cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu cynnyrch ar raddfa ddiwydiannol fechan. Cynlluniwyd y cyfleuster technegol i alluogi cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu cynnyrch ar raddfa ddiwydiannol fach.

Mae’r ganolfan yn unigryw i Gymru ac yn cynnwys cymaint â phedair Uned Modiwlar unigol ar gyfer Cynhyrchu Bwyd sy’n darparu cyfleusterau cynhyrchu sy’n barod i’w ddefnyddio gan fusnesau newydd.