Hyfforddiant

Pobl yw elfen bwysicaf unrhyw fusnes, a gall pobl sydd wedi'u hyfforddi’n briodol, sy'n ymroddedig ac yn hyderus yn eu gallu eu hunain wneud gwahaniaeth mawr i’ch llwyddiant.

Gallwn eich helpu trwy roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar eich staff i weithio i’r safonau uchaf.

Dan y gyfraith, mae’n rhaid i bawb sy’n trin bwyd gael eu hyfforddi yn ôl eu gweithgareddau trin bwyd. Ar ben hynny, bydd gan unigolion sydd wedi cyflawni’r cwrs hylendid bwyd yn llwyddiannus yr hyder a’r arbenigedd i gyflwyno bwyd o ansawdd yn ddiogel i gwsmeriaid.

Mae cymwysterau diogelwch bwyd ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes arlwyo, lletygarwch neu weithgynhyrchu, lle mae hylendid bwyd yn hollbwysig gan fod bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei weini neu ei gynhyrchu. Er enghraifft, tafarnau, gwestai, bwytai, siopau, ffatrïoedd, llefydd bwyd cyflym, ysbytai, cartrefi nyrsio a gofal, ysgolion, carchardai a’r lluoedd arfog.

Highfield yw’r corff dyfarnu ar gyfer ein cyrsiau diogelwch bwyd a HACCP.

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn darparu cyrsiau diogelwch bwyd, HACCP a chyrsiau hyfforddi ymarferol i grwpiau, naill ai yn ein canolfan ni neu’ch lleoliad chi.  Mae ein Technolegwyr Bwyd profiadol yn arbenigo mewn cynnal dadansoddiad o fylchau mewn sgiliau a datblygu cynlluniau hyfforddiant er mwyn darparu hyfforddiant penodol i anghenion eich staff a’ch busnes. Gallwn ddarparu cyrsiau wedi’u teilwra i fodloni’r cyfarwyddebau HACCP i’r sectorau cig, llaeth ac arlwyo. Gallwch astudio sgiliau cig a llaeth sylfaenol, a’u defnyddio’n ymarferol yn ein hardaloedd prosesu cig a llaeth ni neu yn eich canolfan brosesu chi.