Dyfarniad Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Alergenau a'u Rheoli wrth Arlwyo

Cwrs un diwrnod ar gyfer gweithwyr sy’n trin bwyd a staff eraill sy’n arlwyo, paratoi bwyd a gweini. Mae’r cwrs hefyd yn addas i bobl sy’n trin bwyd yn y maes gweithgynhyrchu neu fanwerthu lle caiff y bwyd ei baratoi, ei goginio a’i drin (ac i’r rheini sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiant).   

Dyddiad y cwrs nesaf: Dyddiadau i’w drefnu

Hyd y cwrs: 1 diwrnod

Rhagofyniad: Dim

Dull Asesu:  Arholiad atebion aml-ddewis

Achrediad RQF: Oes

Pris: £60 (cinio bwffe a lluniaeth wedi’u cynnwys. Mae’r cwrs hwn wedi’i eithrio o TAW)

Canlyniadau Dysgu:

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y dysgwyr yn medru deall y canlynol:

  • Nodweddion alergeddau ac anoddefiadau bwyd a’u canlyniadau
  • Gweithdrefnau i nodi a rheoli unrhyw halogi y mae alergenau yn ei achosi
  • Gweithdrefnau i gyfathrebu gwybodaeth gywir ynglŷn ag alergenau i’r defnyddwyr 

Yr hyn a awgrymir ar ôl cwblhau’r cwrs: 

  • Dyfarniad Lefel 3 - Rheoli Alergenau Bwyd yn y maes Arlwyo
  • Dyfarniad Lefel 2 - Diogelwch Bwyd yn y maes Arlwyo   
  • Dyfarniad Lefel 2 - Diogelwch Bwyd yn y maes Gweithgynhyrchu