Dyfarniad Lefel 3 Rheoli Alergenau Bwyd ym maes Arlwyo

Cwrs dau ddiwrnod ar gyfer y sawl sy’n goruchwylio gweithwyr sy’n trin bwyd a staff eraill sy’n arlwyo, paratoi bwyd a gweini. Mae’r cwrs hefyd yn addas i oruchwylwyr sy’n gweithio yn y maes gweithgynhyrchu neu fanwerthu lle caiff bwyd ei baratoi, ei goginio a’i drin (ac i’r rheini sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiant). 

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a pherchnogion busnes.

Dyddiadau’r cyrsiau nesaf: Dyddiadau i’w drefnu

Hyd y cwrs: Dau ddiwrnod

Rhagofyniad: Dyfarniad Lefel 2 - Ymwybyddiaeth o Alergenau Bwyd a Rheoli Alergenau yn y maes Arlwyo neu Ddyfarniad Lefel 2 - Diogelwch Bwyd yn y maes Arlwyo neu Weithgynhyrchu

Dull Asesu:  Arholiad atebion aml-ddewis

Achrediad RQF:  Oes

Pris: £280 (cinio bwffe a lluniaeth wedi’u cynnwys. Mae’r cwrs hwn wedi’i eithrio o TAW)

 

Canlyniadau Dysgu:

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y dysgwyr yn medru deall y canlynol:

  • Rôl y rheolwr o ran sicrhau bod cynhwysion bwyd ac alergenau yn cael eu rheoli’n effeithiol. 
  • Gweithdrefnau ynglŷn â chyfathrebu gwybodaeth am gynhwysion rhwng y cyflenwr a’r defnyddiwr.
  • Pwysigrwydd rhoi mesurau rheoli ymarferol ar waith er mwyn atal halogi a thraws-heintio gan alergenau
  • Y dulliau a ddefnyddir i reoli mesurau a gweithdrefnau o ran cynhwysion

 

Yr hyn a awgrymir ar ôl cwblhau’r cwrs:

  • Dyfarniad Lefel 3 a 4 - Diogelwch Bwyd
  • Cymwysterau HACCP - Lefel 3