Gwneud Caws Masnachol

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn darparu hyfforddiant gwneud caws wedi’i gynllunio’n arbennig i gefnogi busnesau bwyd. Mae ein cyrsiau wedi’u hanelu at gynhyrchwyr masnachol a busnesau llaeth sefydledig sy’n dymuno datblygu eu sgiliau, atgyfnerthu safonau a gwella prosesau cynhyrchu.

Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • Hyfforddiant technegol ar egwyddorion gwyddonol a thechnolegol gwneud caws
  • Sesiynau ymarferol yn ein cyfleusterau prosesu ar y safle
  • Cyngor ar gwrdd â safonau’r diwydiant o fewn cynhyrchu caws
  • Canllawiau ar ddatblygu ryseitiau i fusnesau sy’n dymuno lansio amrywiaethau newydd gaws
  • Mynediad at Dechnolegwyr Bwyd ar gyfer cefnogaeth fusnes wedi’i theilwra

Hyfforddiant ar gyfer pwy?

Mae ein hyfforddiant gwneud caws wedi’i gynllunio ar gyfer busnesau a chynhyrchwyr sy’n dymuno ehangu neu wella eu gweithrediadau masnachol.

(Nodwch os gwelwch yn dda – nid yw ein hyfforddiant wedi’i gynllunio ar gyfer gweithdai gwneud caws cartref neu anfasnachol.)

Cysylltwch â ni

I ddarganfod mwy am ein hyfforddiant gwneud caws, cysylltwch â ni:
📧 events@foodcentrewales.org.uk
📞 01559 362230