Ymunwch â ni yn Hwlffordd ar 17 Medi 2025
Os ydych yn gynhyrchydd profiadol neu’n newydd i’r sector – mae’r digwyddiad hwn i chi.
Rydyn ni’n dod i Hwlffordd ym mis Medi ar gyfer y digwyddiad nesaf yn ein cyfres o Sioeau Teithiol Busnes Bwyd a Diod, fel rhan o Raglen HELIX, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
📍 Y Pafiliwn, Maes Sioe Sir Benfro, SA62 4BW
📅 Dydd Mercher 17 Medi 2025
🕙 10:00yb-2:00yp
☕ Mynediad am ddim - lluniaeth ar gael
Mae’r digwyddiad galw heibio hwn wedi’i gynllunio i roi cyfle i fusnesau bwyd a diod o bob maint siarad yn uniongyrchol â darparwyr cymorth profiadol.
Os ydych yn lansio syniad newydd, yn tyfu cynhyrchiant neu’n archwilio opsiynau cyllido a hyfforddiant - dyma’r cyfle i chi gael cyngor ymarferol, i gyd mewn un lle.
Beth fydd ar gael?
Bydd cyfle i chi siarad â sefydliadau sy’n cynnig cymorth busnes am ddim ac arbenigol i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys:
Pam fynychu?
Rhowch wybod i ni os ydych yn dod
Nid oes angen archebu’n ffurfiol, ond byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu dod – bydd yn ein helpu i gynllunio’r lle, y lluniaeth ac i sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o’ch ymweliad.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu busnesau bwyd a diod o bob cwr o Sir Benfro – a’ch helpu i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.