Ers tro, mae Canolbarth Cymru wedi bod yn gartref i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol. Mae’r gwaith ehangu newydd hwn i’r Parc Busnes Bwyd-Amaeth yn Llandysul yn fuddsoddiad mawr sydd wedi’i gynllunio i helpu’r busnesau hynny i dyfu, arloesi a ffynnu.
Drwy ddwyn ynghyd Ganolfan Arloesi Gweithgynhyrchu Bwyd (CAGB) newydd a chlwstwr o unedau gweithgynhyrchu safon bwyd modern, mae’r datblygiad yn creu safle unedig lle mae cynhyrchu, arloesi a chydweithio yn cyd-fyw ochr yn ochr.
Mae hyn yn fwy na dim ond adeiladau newydd. Mae’n ymrwymiad hirdymor i gryfhau economi gweithgynhyrchu bwyd Canolbarth Cymru.
Mae ehangu’r Parc Busnes Bwyd-Amaeth yn ymateb yn uniongyrchol i’r galw cynyddol gan fusnesau bwyd a diod am ofod gweithgynhyrchu o ansawdd uchel sy’n gallu ehangu gyda’u hanghenion.
Drwy greu cyfleusterau pwrpasol a gosod arloesi wrth galon y safle, nod y prosiect yw:
Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, gan gyfrannu at weledigaeth ranbarthol ehangach ar gyfer y sectorau amaeth, bwyd a diod ochr yn ochr â phrosiectau arloesi mawr eraill.
Unedau gweithgynhyrchu safon bwyd
Bydd pum uned weithgynhyrchu newydd, wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer cynhyrchu bwyd a diod, yn cael eu darparu gan Gyngor Sir Ceredigion.
Canolfan Arloesi Gweithgynhyrchu Bwyd (CAGB)
Wrth galon y safle bydd y Ganolfan Arloesi Gweithgynhyrchu Bwyd newydd.
Mae bod yn rhan o’r Parc Busnes Bwyd-Amaeth yn cynnig mwy na dim ond gofod.
Bydd busnesau ar y safle yn elwa o:
Fynediad uniongyrchol i gyfleusterau arloesi a pheilota
Cyfleoedd i gydweithio gyda busnesau bwyd cyfagos
Amgylchedd proffesiynol i groesawu prynwyr, buddsoddwyr a phartneriaid
Cysylltiadau cryf â’r ecosystem arloesi ranbarthol ehangach, gan gynnwys AberInnovation ym Mhrifysgol Aberystwyth
Prin yw’r lleoliadau sy’n cynnig y lefel hon o gapasiti gweithgynhyrchu ac arloesi integredig ar un safle.
I gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at gen@foodcentrewales.org.uk neu ffoniwch 01559 362230.